CWESTIYNNAU

Cwestiynnau ofynnir yn aml

  • Ydi diodydd di-alcohol/gin yn blasu fel gin traddodiadol?

Rydyn ni wedi gweithio'n galed i greu diod sydd yn ein tyb ni'n blasu fel y peth go iawn, gyda merywen, oren a phupur du a dyfnder blas sy'n rhoi'r profiad a theimlad eich bod yn mwynhau diod o ansawdd - heb yr effaith.

  • Ydi diod di-alcohol yn fuddiol?

Rydym yn credu bod ein diodydd yn rhoi yr un blas, pleser a phrofiad a gewch o ddiod alcoholaidd, ond gyda'r budd enfawr o gadw gwybyddiaeth, rheolaeth, elfennau ffitrwydd a iechyd a chaloriau isel iawn.  Mae ein cwrw yn 37 calori y can - tua chwarter yr hyn sydd mewn cwrw alcoholig a 10fed y caloriau sydd mewn seidr.  Mae ein Gwirod botanegol yn 4 calori y mesur.  Mae'r cynhwysion yn naturiol, yn ddi-glwten a figan.

  • Be sy'n gwneud eich diodydd yn Gymreig?

Mae ein holl gynnyrch wedi eu cynhyrchu yng Nghymru, yn y de yn benodol sy'n cadw'r economi'n gylchol a lleol.  Mae'r Gymraeg yn gyntaf ar bopeth. Mae normaleiddio'n hiaith brydferth, fodern, Ewropeaidd ar gynnyrch safonol yn naturiol i ni.

  • Ydi cwrw di-alcohol yn helpu rheoli pwysau?

Dylid trafod rheoli pwysau gyda maethegydd proffesiynol, ond mae ein diodydd yn galori isel ac felly'n helpu gyda chyfri caloriau, a heb "sweeteners" chwaith.

  • Oes modd yfed diodydd di-alcohol tra'n feichiog?

Does dim rheswm i beidio yfed ein diodydd tra'n feichiog neu'n bwydo gan nad oes alcohol ynddynt a dim ond cynhwysion naturiol, di-glwten.

  • All diodydd di-alcohol greu cur pen?

Ein hethos yw creu diodydd mor naturiol a phosib. Mae cadwolion naturiol yn y Gwirod Botanegol, ac mae'r cwrw wedi ei fragu yn y dull traddodiadol heb ychwanegolion, mae popeth yn ddi-glwten, figan a chalori isel, felly ni ddylent achosi cur pen.

  • Lle allai brynu'n lleol?

Rydyn ni'n falch iawn o weithio gyda'r lleoliadau a siopau bwyd a diod gorau ledled Cymru - dyma restr oedd yn gywir ddoe! Croeso i chi gynnig syniadau eraill atom neu ebostiwch os am werthu yn eich sefydliad chi - helo@dirwest.cymru 

O Fôn i Fynwy; Bragdy CybiKeegansBonta Deli Caernarfon, Jac y Do, Caernarfon, Na Nog, Caernarfon, Adra HomeLlwy a Mwy, Penygroes, Caffi Ni, Nefyn, Cwrw LlynGwin LlynTyn-y-Coed, Capel Currig, Blas ar Fwyd Llanrwst, Stori Beers, BalaMaes Carafanau Llanbenwch Caravan Park, Oakeley ArmsClwb Rygbi Bro FfestiniogGwin Dylanwad Wine, Dolgellau, Bottle and Barrel, Aberystwyth, Llew Du Aberystwyth, Cwrw Bar, Caerfyrddin, Siop y Pentan, Caerfyrddin, Castell HowellPitchfork and Provisions, Llandeilo, The Norton, Mumbles,Venue 42, Mumbles, Ty TaweThis is Beer, PorthcawlPyle Garden Centre, Radyr  Forage Farm, Cowridge, Three Horseshoes MoultonBarry Island Spirits, Griffs Deli, Penarth, Acapela StudioPugh’s Garden Centre, Radyr, The Bottle Shop, Caerdydd, Sain Ffagan, Canna Deli,  Hiraeth Kitchen, Caerdydd VinVan Cymru, Caerdydd, Wally's Delicatessen, Bunch of Grapes, Pontypridd, Swper Farm Shop, Pengam, The Lockup Shop, Caerffili, Le Pub, Casnewydd