Refund policy
Mae gennym bolisi dychwelyd 30 diwrnod, sy'n golygu bod gennych 30 diwrnod ar ôl derbyn eich eitem i ofyn am gael ei yrru nôl.
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'r eitem fod yn yr un cyflwr a phan y dderbynioch ef. Bydd hefyd angen prawf anfoneb.
I ddechrau dychwelyd eitem, gallwch gysylltu gyda ni ar helo@dirwest.co.uk
Os derbynnir eich dychweliad, byddwn yn anfon label postio a chyfarwyddiadau sut i anfon y pecyn. Ni dderbynnir eitem heb gais yn gyntaf. Gallwch gysylltu gyda unrhyw gwestiynau am ddychwelyd eitem ar helo@dirwest.cymru
Difrod a phroblemau
Gwiriwch eich archeb ar ôl ei derbyn a chysylltu'n syth os oes problem, difrod neu yr ydych wedi derbyn yr eitem anghywir fel ein bod yn gallu cywiro'r broblem.
14 diwrnod Undeb Ewropeaidd
Er yr uchod, os yw'r eitemau'n cael eu hanfon i Ewrop, mae gennych yr hawl i ganslo neu ddychwelyd eich archeb o fewn 14 diwrnod am unrhyw reswm. Fel uchod, rhaid i'r eitem fod yn yr un cyflwr a phan y'i derbyniwyd, heb ei agor ac yn ei becynnu gwreiddiol. Bydd angen prawf prynu.
Ad-daliad
Byddwn yn rhoi gwybod i chi unwaith derbynnir yr eitem, a gadael i chi wybod os yw'r ad-daliad yn cael ei gytuno ai beidio. Os y cytunir, byddwch yn gael ad-daliad awtomatig drwy eich dull talu gwreiddiol o fewn 10 diwrnod busnes. Cofiwch y gall rhai banciau neu gwmniau cerdyn credit gymryd amser i brosesu. Os oes mwy na 15 diwrnod busnes wedi pasio ers i ni gadarnhau ad-daliad, cysylltwch helo@dirwest.cymru